Heddlu arfog ar strydoedd Brwsel
Mae disgyblion ym Mrwsel yn dechrau dychwelyd i’w dosbarthiadau ar ôl i’r awdurdodau gau ysgolion a phrifysgolion y ddinas yn dilyn pryderon y gallai brawychwyr gynnal cyfres o ymosodiadau yno.
Er bod yr ysgolion a rhannau o’r system metro yn ail-agor heddiw, mae mesurau diogelwch y brifddinas yn dal i fod yn llym, gyda myfyrwyr yn cael eu cyfyngu i aros o gwmpas ysgolion a phrifysgolion yn unig yn ystod y dydd.
Ac er bod prif rannau o system drenau tanddaearol Brwsel wedi ail-ddechrau ar ôl bod ynghau am bedwar diwrnod, does dim gwasanaethau yn rhedeg i ardaloedd ar gyrion y ddinas.
Fe wnaeth awdurdodau Gwlad Belg gyflwyno rhybudd difrifol yn y brifddinas nos Wener, wrth i bryderon godi am ymosodiad brawychol yn dilyn yr ymosodiadau ym Mharis pan gafodd 130 o bobl eu lladd.
Mae dros 1,000 o swyddogion diogelwch a milwyr wedi cael eu hanfon i ddiogelu’r ddinas.