Heddlu arfog yn ystod cyrch yn Saint-Denis ym Mharis
Mae cyfanswm o 124 o bobl wedi cael eu cyhuddo yn Ffrainc ers i stad o argyfwng gael ei gyhoeddi oriau’n unig ar ôl ymosodiadau Paris, meddai llefarydd ar ran y Llywodraeth.
Dywedodd y gweinidog Bernard Cazeneuve wrth ASau heddiw bod mwy na 1,230 o gyrchoedd wedi cael eu cynnal a 230 o arfau wedi’u darganfod. Nid oedd wedi rhoi manylion ynglŷn â’r cyhuddiadau sy’n wynebu’r 124 o bobl.
Dyma’r tro cyntaf i’r awdurdodau gyhoeddi bod cyhuddiadau wedi eu gwneud ers yr ymosodiadau ar 13 Tachwedd pan gafodd 130 o bobl eu lladd a channoedd eu hanafu.
Yr Eidal
Yn y cyfamser mae’r awdurdodau yn yr Eidal wedi cadarnhau bod un o’r rhai sy’n gysylltiedig â’r ymosodiadau ac sydd bellach ar ffo, wedi teithio drwy’r Eidal ym mis Awst.
Yn ôl adroddiadau roedd Salah Abdeslam, a dyn arall sy’n cael ei amau o fod yn filwriaethwr IS, wedi teithio drwy’r wlad ar 1 Awst gan deithio ar fferi o borthladd Bari yn y de i Wlad Groeg.
Credir bod Abdeslam ac Ahmad Dahmani wedi dychwelyd i Bari o Wlad Groeg ar 5 Awst cyn teithio drwy’r Eidal mwn car cyn croesi’r ffin i Ffrainc y diwrnod canlynol.
Cafodd Ahmad Dahmani ei arestio mewn gwesty yn Nhwrci dros y penwythnos.
Adroddiadau bod Abdeslam yn yr Almaen
Yn yr Almaen mae’r heddlu wedi derbyn adroddiadau gan aelod o’r cyhoedd y gallai Abdeslam fod yn cuddio mewn ardal wledig ger Hanover ond mae’n ymddangos nad ydyn nhw wedi dod o hyd i unrhyw arwyddion ei fod wedi bod yno.
Mae’n debyg bod Abdeslam wedi croesi i Wlad Belg y bore wedi’r ymosodiadau ym Mharis.