Ugain mlynedd wedi ymosodiadau 9/11 byddpobol a gafodd eu hysgwyd i’r carn gan yr ymosodiadau yn siarad ar raglen arbennig.

Bu farw bron i 3,000 o bobol yn sgil ymosodiadau 9/11 yn yr Unol Daleithiau, ac mae etifeddiaeth y digwyddiad yn golygu “rhywbeth gwahanol i bob person”.

Gan gyfweld â phobol yn yr Unol Daleithiau ac yng Nghymru, bydd lleisiau pobol nad ydyn ni wedi’u clywed o’r blaen yn rhan o raglen 9/11: Diwrnod Wnaeth Newid Fy Mywyd ar sianel S4C heno.

Doedd y tîm cynhyrchu ddim am wneud ffilm “mae pawb wedi’i gweld o’r blaen”, felly mae’r rhaglen yn ceisio mynd i’r afael ag elfennau mwy anghyfarwydd y diwrnod a’i oblygiadau.

Maxine Hughes, sy’n byw yn yr Unol Daleithiau, oedd yn gyfrifol am ddod o hyd i bobol i’w holi’r ochr arall i’r Iwerydd, a’u cyfweld, ac roedd hi’n gyfrifoldeb mawr gweithio ar y stori, meddai.

Anodd

“Roedden ni’n teimlo ei fod yn ddigwyddiad, a stori, ac ugain mlynedd gyda gormod i beidio gwneud rhywbeth,” eglurodd Maxine Hughes wrth golwg360.

“Mae hi’n stori enfawr i’w gwneud, ac mae hi’n stori anodd i’w gwneud.

“Pan ti’n sôn am etifeddiaeth 9/11, mae’n rhywbeth gwahanol i bob person.

“Wrth gwrs, mae yna deuluoedd dioddefwyr, pobol sy’n sâl rŵan oherwydd llygredd yn yr awyr o gwmpas Ground Zero – mae yna bobol sydd wedi marw oherwydd y llygredd yn yr awyr.

“Mae yna bobol o Brydain ac America wedi marw yn Affganistan ac Iraq, ac wrth gwrs mae yna bobol o Iraq ac Affganistan hefyd sydd dal mewn perygl, sydd dal yn fregus iawn ac sydd wedi dioddef oherwydd y rhyfel.”

Ymysg y rhai sy’n siarad ar y rhaglen, mae Mel Williams, dyn camera a ffilmiodd y tŵr yn disgyn, Charlie Wolf o Abertawe a gollodd ei wraig yn yr ymosodiadau ar Ganolfan Fasnach y Byd, a ffoadur o Iraq.

Mae Nelson Haerr, a oedd yn ddyn tân gyda Gwasanaeth Tân Efrog Newydd ond sydd bellach byw yn Llanrwst, yn un arall sy’n cael ei gyfweld.

“Mae yna lot o stwff gwreiddiol i’r gynulleidfa yn y ffilm yma,” meddai Maxine Hughes am y ffilm sydd wedi’i chynhyrchu gan Wildflame.

“Emosiynol iawn”

Roedd Maxine Hughes yn byw yn Efrog Newydd ar y pryd, a hon, o bosib, yw’r stori anoddaf iddi weithio arni.

“Roeddwn i wedi hedfan allan o [faes awyr] JFK wyth awr cyn yr ymosodiad yn Efrog Newydd,” esboniodd.

“Roeddwn i’n byw yma trwy’r cyfnod yna i gyd pan oedd yr Arlywydd Bush yn penderfynu mynd mewn i Affganistan, ac wedyn pan roedden nhw’n penderfynu mynd mewn i Iraq.

“Roeddwn i yn Efrog Newydd yn gweld y protestiadau cyn y rhyfel yn Iraq. Roeddwn i’n meddwl fy mod i’n gwybod lot am y stori ond i wneud cyfweliadau hir sydd yn mynd yn ddwfn, roeddwn i’n ffeindio fo’n emosiynol iawn.

“Mae yna dal gymaint o emosiwn o gwmpas y storiâu, mae amser wedi mynd heibio ond mae’r stori dal mor ofnadwy ag erioed, ac i orfod mynd mewn yn ddwfn gyda phobol a siarad am y manylion – mae’n anodd iawn.”

Rhun ap Iorwerth yn cael ei gyfweld ar y rhaglen

Cyfrifoldeb

Wrth weithio ar y rhaglen, roedd Maxine Hughes yn teimlo cyfrifoldeb i wneud y stori a’r rhaglen hon yn iawn.

“Dw i’n teimlo bod Wildflame wedi gwneud job dda iawn yn gwneud hynna,” meddai.

“Mae yna rywbeth, gyda’r storiâu yma rydyn ni’n eu gwneud flwyddyn ar ôl blwyddyn, mae’r gynulleidfa, efallai, yn gallu bod ychydig bach yn imiwn.

“Doedden ni ddim isio gwneud ffilm fel yna roedd pawb wedi’i gweld o’r blaen, wrth gwrs mae’n rhaid i ni bwysleisio’r diwrnod ond mae yna gymaint o bethau sydd wedi newid oherwydd y diwrnod yna a dyna sy’n bwysig yn y ffilm yma.

“Mae yna gymaint o bethau dydyn ni ddim yn clywed amdanyn nhw, ac rydyn ni wedi trio mynd mewn i’r pethau bach yma dydyn ni heb glywed o’r blaen.”

“Ysgwyd y byd”

Roedd hi’n “fraint ac anrhydedd” clywed y straeon hyn, meddai Llinos Griffin-Williams sy’n uwch-gynhyrchydd gyda Wildflame.

“Dydi’r rhaglen ddogfen ddim am Gymry oedd yn digwydd bod yn America ar y pryd – mae’r rhain yn testemonies gan bobol oedd yn ei chanol hi, yn gweld y digwyddiadau fel roedden nhw’n datblygu, wedi cael eu heffeithio’n uniongyrchol, wedi colli pobol,” meddai Llinos Griffin-Williams.

“Mae’n gymhleth, mae’n emosiynol, ond ar ddiwedd y dydd mae’n un digwyddiad sydd wedi ysgwyd y byd, mewn ffordd, ac wedi ysgwyd y bobol sy’n cymryd rhan yn y ddogfen i’w carn.

“Doedden ni erioed wedi gweld rhywbeth fel hyn o’r blaen… y miloedd o bobol aeth i’w gwaith un diwrnod, fel rydyn ni i gyd yn ei wneud, a wnaeth ddim dod adre. A’r effaith mae hwnna’n ei gael ar ddinas fel Efrog Newydd, a’r effaith mae o’n ei gael ar y byd.”

“Gofyn y cwestiynau”

Ymhlith y cyfweliadau eraill yn y rhaglen, sy’n dilyn sgil effeithiau’r diwrnod hyd at heddiw, mae sgwrs gyda Sarah Adams o Gwmbrân a gollodd ei mab yn 21 oed yn Affganistan.

“I hi, pan mae rhywun yn gofyn i ba les anfon y Cymry draw i ryfel ymhell i ffwrdd o adra – ‘Roedd o i’r plant, i’r merched, i’r bobol doedd ddim yn gallu amddiffyn eu hunain. Mae 20 mlynedd yn oes, mae merched wedi cael addysg, mae plant wedi tyfu fyny mewn rhywle saffach na fasa nhw tasa ni heb fynd mewn…’” meddai Llinos Griffin-Williams.

“Mae’n gofyn i chi ofyn y cwestiwn, pa lwyddiant gafon ni… ond eto, mae’n rhaid meddwl am y cyfnod yna a’r effaith rydyn ni wedi’i gael yn y cyfamser.

“Mae’r ffilm yn un bwerus, mae’n un ddewr, ac mae’n un emosiynol sydd wir angen ei gofio ugain mlynedd ymlaen oherwydd rydyn ni’n dal i deimlo effeithiau’r diwrnod yna heddiw.”

Bydd 9/11: Diwrnod Wnaeth Newid Fy Mywyd ar S4C heno (9 Medi) am 9yh, ac ar gael ar S4C a BBC iPlayer wedyn.