Arlywydd Rwsia, Vladimir Putin
Bydd Prif Weinidog Prydain yn cyfarfod ag Arlywydd Rwsia er mwyn ceisio ei annog i gyd-weithredu â gwledydd y gorllewin yn eu brwydr i drechu’r grŵp brawychol IS.

Daw’r cyfarfod yn dilyn ymosodiadau ar ddinas Paris nos Wener pan gafodd 129 o bobl eu lladd, ac ymosodiad  ar awyren yn yr Aifft oedd yn cludo dros 200 o deithwyr o Rwsia.

Y Wladwriaeth Islamaidd, neu IS, sydd wedi hawlio cyfrifoldeb am y gyflafan ym Mharis, ac maen nhw hefyd yn honni mai nhw oedd  yn gyfrifol am achosi i’r awyren o Rwsia blymio i’r ddaear dros wythnos yn ôl.

Cyfarfod Putin ac Obama

Daw’r cyfarfod rhwng David Cameron a Vladimir Putin, a fydd yn mynychu uwchgynhadledd gwledydd y G20 yn Nhwrci, ar ôl i Arlywydd America, Barack Obama ac arweinydd y Kremlin gwrdd ddydd Sul i drafod y rhyfel cartref yn Syria.

Yn ôl swyddogion America, roedd y cyfarfod yn un ‘adeiladol’.

Yn ôl ffynonellau o Downing Street, mae’r Prif Weinidog yn gobeithio sicrhau Vladimir Putin y bydd buddiannau Rwsia yn cael eu ‘diogelu’ wrth symud i gytundeb newydd yn Syria, yn dilyn ymadawiad yr arlywydd yno, Bashar Assad.