Senedd-dy Gwlad Belg ym Mrwsel
Mae ymchwiliad wedi cael ei lansio ar y cyd rhwng awdurdodau Ffrainc a Gwlad Belg i’r gyflafan ym Mharis nos Wener.
Daeth cadarnhad fod saith o bobol wedi cael eu harestio yng Ngwlad Belg yn dilyn yr ymosodiadau ym mhrifddinas Ffrainc.
Mae ymchwilwyr o Ffrainc eisoes ym Mrwsel.
Roedd dau o’r saith o frawychwyr a gafodd eu lladd ym Mharis yn Ffrancwyr oedd yn byw ym Mrwsel mewn ardal sy’n adnabyddus fel un o ganolfannau radicaliaid Islamaidd y ddinas.
Bydd y saith sydd eisoes yn y ddalfa yn cael gwybod yn ddiweddarach ddydd Sul am ba hyd fyddan nhw’n cael eu cadw yno.