Mae’r grwp eithafol, y Wladwriaeth Islamaidd (IS) wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiadau terfysgol ar ddinas Paris a laddodd 127 o bobol neithiwr, gan ddweud fod Ffrainc ar frig ei restr o dargedau.

Mewn datganiad ar-lein, mae IS yn dweud i wyth o wrthryfelwyr, yn enw’r mudiad ac yn gwisgo gwregysau o ffrwydron ac yn cario gynnau otomatig, ymosod ar dargedau a oedd wedi’u dewis yn ofalus “ym mhrifddinas godineb a phechod” – a bod y mannau hynny’n cynnwys stadiwm chwaraeon Stade de France, a’r neuadd gyngerdd Bataclan.

Yn y naill le, roedd timau pêl-droed Ffrainc a’r Almaen yn chwarae gêm gyfeillgar; yn y llall, roedd band roc Americanaidd yn chwarae ac, yn ol IS, roedd “cannoedd o’u dilynwyr yn cael parti godinebus”.

“Fydd arogl pydredd a marwolaeth ddim yn gadael eu ffroenau cyhyd â’u bod yn aros ar flaen y gad,” meddai’r datganiad, gan gyfeirio at ymgyrch y gynghrair o wledydd, dan arweiniad yr Unol Daleithiau, sy’n ymosod ar IS yn Irac ac yn Syria.

“Tra byddan nhw’n meiddio herio ein proffwyd, tra byddan nhw’n brolio rhyfel yn erbyn Islam, ac yn taro Mwslimiaid yn y Dwyrain Canol… fydd eu hawyrennau grymus o ddim defnydd iddyn nhw ar strydoedd a lonydd culion, pydredig, Paris.”

Fe gyhoeddwyd y datganiad yn Arabeg ac yn Ffrangeg, ac fe’i cyhoeddwyd ar-lein, cyn cael ei rannu gan gefnogwyr IS. Fe gyhoeddwyd hefyd fersiwn awdio,