Heddlu'r Eidal
Mae grŵp recriwtio Cwrdaidd, a oedd yn anfon pobol i ymladd yn Irac a Syria gyda’r

Wladwriaeth Islamaidd (IS), ac oedd wedi’i leoli yn Norwy, wedi cael ei chwalu.

Mae 13 o aelodau’r grŵp wedi cael eu harestio yn yr Eidal, y DU ac yn Norwy.

Yn ôl Pennaeth Heddlu Milwrol yr Eidal, Giuseppe Governale hwn oedd “ymgyrch pwysicaf yr heddlu yn Ewrop ers 20 mlynedd.”

Dywedodd awdurdodau’r Eidal mai arweinydd y grŵp oedd Najmuddin Faraj Ahmad, sydd hefyd yn cael ei adnabod fel Mullah Krekar, ac sydd eisoes yn y carchar yn Norwy.

Fe oedd sylfaenydd y grŵp brawychol Ansar al-Islam, a oedd wedi uno ag IS y llynedd ond sydd bellach wedi cael ei ddiddymu.

Sefydlu grŵp i annog ymladd dros IS

Ar ôl iddo ffoi i Norwy, fe wnaeth Mullah Krekar ffurfio grŵp arall, Rawti Shax, er mwyn addysgu cenhedlaeth newydd o Gwrdiaid Irac yn Ewrop i ddymchwel y llywodraeth yn y rhanbarth Cwrdaidd yn Irac a sefydlu system gyfreithiol eithafol  Islamaidd yno, meddai heddlu’r Eidal.

Fe ddatblygodd rhwydwaith o ddilynwyr ledled Ewrop, a oedd yn cyfathrebu drwy sgyrsiau ar y we, yr oedd heddlu’r Eidal yn eu monitro gan arwain at eu harestio heddiw.

Roedd Mullah Krekar wedi cael ei ddedfrydu i 18 mis yn y carchar yn Norwy am ganmol lladd rhai o weithwyr y cylchgrawn dychanol Charlie Hebdo ym Mharis.

Roedd hefyd wedi’i gael yn euog o annog eraill i ladd mewnfudwr Cwrdaidd yn Norwy.

 

Achos llys yn Oslo ddydd Gwener

Bydd achos llys yn Oslo ddydd Gwener yn erbyn y bobl o Norwy sydd wedi cael eu harestio, ac mae posibilrwydd y byddan nhw’n cael eu halltudio i’r Eidal.

Yn gynharach eleni, cafodd Mullah Krekar ei ryddhau ar ôl bron i dair blynedd yn y carchar am fygwth lladd pobol.

Roedd y dyn 59 oed, sy’n dod o’r rhanbarth Cwrdaidd yn Irac, wedi dod i Norwy fel ffoadur yn 1991.