Awyren yn cludo cyrff y rhai fu farw yn cyrraedd St Petersburg, yn Rwsia
Mae cyrff rhai o’r bobl gafodd eu lladd mewn damwain awyren yn yr Aifft wedi cael eu cludo yn ôl i Rwsia.

Cafodd pob un o’r 224 o bobl oedd ar fwrdd yr awyren Metrojet Airbus A321-200 eu lladd pan darodd y ddaear yn yr Aifft ddydd Sadwrn.

Fe gyrhaeddodd yr awyren yn cludo 144 o gyrff yn St Petersburg bore ma.

Roedd y rhan fwyaf o’r teithwyr yn dod o Rwsia.

Roedd yr awyren wedi taro’r ddaear 23 munud ar ôl gadael Sharm el-Sheikh yn yr Aifft ar ei ffordd i St Petersburg.

Dywedodd un o uwch swyddogion Rwsia bod yr awyren wedi chwalu yn yr awyr. Roedd ’na honiadau bod gwrthryfelwyr Islamaidd wedi saethu’r awyren i’r llawr.

Mae’r llywodraeth wedi anfon mwy na 100 o arbenigwyr i helpu’r awdurdodau yn yr Aifft i geisio dod o hyd i ragor o gyrff a gweddillion yr awyren.

Mae’r Arlywydd Vladimir Putin wedi cyhoeddi diwrnod cenedlaethol o alaru.

Yn ôl asiantaethau newyddion yn Rwsia fe fydd y llywodraeth yn anfon ail awyren i ddod a rhagor o gyrff yn ôl yn ddiweddarach heddiw.