Mae gweithwyr achub yng ngwlad Groeg yn dal i chwilio am 38 o bobol sy’n parhau ar goll, wedi i gwch pren oedd yn cario ffoaduriaid foddi ger ynys Lesbos.

Fe gafodd 242 o bobol eu hachub, a thri o gyrff eu darganfod gan wylwyr y glannau wedi i’r cwch droi drosodd ddoe.

Erbyn heddiw, mae hofrennydd yr asiantaeth gwarchod ffiniau Ewropeaidd, Frontex, wedi ymuno yn  y chwilio.

Fe fu dwsinau o barafeddygon a gwirfoddolwyr yn cynorthwyo’r chwilio ddoe. Fe gafodd 18 o blant eu cludo i’r ysbyty, ac mae tri ohonyn nhw mewn cyflwr difrifol.

Bu farw beth bynnag 11 o bobol, y mwyafrif ohonyn nhw’n blant, mewn pump o ddigwyddiadau gwahanol yn y môr oddi ar arfordir Groeg ddoe, wrth i filoedd o bobol barhau i wneud y daith tuag ynysoedd Groeg o Dwrci mewn cychod simsan a thywydd stormus.