Mae pobol Yr Aifft yn pleidleisio heddiw yn eu hetholiad seneddol cynta’ ers i’r fyddin gael gwared ar eu harlywydd yn 2013.

Fe ddechreuodd Eifftwyr sy’n byw dramor fotio ddoe, ac fe fydd y broses yn parhau heddiw ar draws 15 rhanbarth. Bydd y pleidleisio ar gyfer y 13 rhanbarth arall yn digwydd ymhen mis, dros benwythnos Tachwedd 22-23.

Mae sylwebwyr yn dweud mai nifer fechan y maen nhw’n ei ddisgwyl i droi allan i fwrw croes, ac y bydd hynny’n datgan cefnogaeth i bolisïsau’r arlywydd Abdel-Fattah el-Sissi a gafodd ei etholi yn 2014 wedi i’r fyddin gael gwared â Mohamed Morsi.

Fe ddaw’r bleidlais hon ar adeg pan mae Mr el-Sissi yn cael trafferth wrth geisio adfywio’r economi, ac wrth iddo geisio dawelu gwrthwynebiad Islamaidd i’w bolisïau.