Mae un o brif gadfridogion cangen Syria o fudiad al-Qaida wedi’i ladd mewn ymosodiad o’r awyr, yn ol adroddiadau lleol.

Lladdwyd Abdul Mohsen Abdallah Ibrahim al-Charekh, ddydd Iau yn ystod ymosodiad o’r wwyr ger tre’ ogleddol Dana. Dyw hi ddim yn glir p’un ai awyren ryfel o America neu o Rwsia oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad.

Mae gwrthryfelwyr jihadi ar wefannau cymdeithasol yn honni mai un o awyrennau di-beilot yr Unol Daleithiau a’i lladdodd.

Fe ddaeth ei farwolaeth dri mis wedi i’r Unol Daleithiau ladd un arall o arweinwyr y mudiad yn Syria, Muhsin al-Fadhli.