Libya - y wlad yn y glas tywyll
Mae Libya gam yn nes at ffurfio llywodraeth genedlaethol unedig ar ôl misoedd o drafodaethau anodd rhwng y grwpiau sy’n rheoli dau ddarn y wlad.
Dywedodd llysgennad Cenhedloedd Unedig y wlad, Bernardino Leon fod enwau ar gyfer y llywodraeth newydd wedi’u dewis, ond mai penderfyniad y ddwy ochr a phobol Libya ei hun yw eu cymeradwyo neu beidio.
Mae’r cynllun yn ceisio dod â’r wlad yn ôl at ei gilydd ar ôl iddi chwalu yn dilyn dymchwel llywodraeth yr unben Muammar Gaddafi yn 2011 ac ymyrraeth gwledydd mawr y Gorllewin.
Gwlad wedi’i rhannu
Mae’r wlad wedi’i hollti rhwng llywodraeth Islamaidd sydd yn Tripoli, prifddinas Libya, a llywodraeth arall sydd wedi ennyn cydnabyddiaeth ryngwladol yn nwyrain y wlad.
Dyw hi ddim yn glir eto p’un a yw’r ddwy ochr yn cefnogi’r rhestr newydd o ymgeiswyr.
Wrth siarad o Moroco, cyhoeddodd Bernardino Leon mai Fayez Sarraj fyddai’r prif weinidog newydd yn y senedd newydd yn Tripoli.
Croesawu dwy ddynes ar y rhestr o weinidogion
Mae’r rhestr yn cynnwys tri dirprwy i’r prif weinidog, a fydd yn cynrychioli dwyrain, gorllewin a de’r wlad, a dau weinidog ar gyfer y cyngor arlywyddol.
“Bydd rhaid i bob un ohonyn nhw weithio fel tîm. Doedd hyn ddim yn dasg hawdd,” meddai Bernardino Leon.
Ac mae dwy fenyw wedi eu dewis yn weinidogion posib ar y rhestr newydd.