Donald Trump
Mae dyn busnes sydd a’i lygad ar fod yn Arlywydd nesa’ yr Unol Daleithiau, wedi dweud y byddai’n anfon ffoaduriaid o Syria yn ol adre’ – a hynny oherwydd y gall fod yn eu plith eithafwyr IS yn cuddio.

Mae’r biliwnydd, sydd ar y blaen yn y polau piniwn ar hyn o bryd, wedi dweud mewn araith awr o hyd (yn cynnwys nifer o regfeydd) ei fod yn pryderu y gallai rhai o’r ffoaduriaid sy’n ffoi o’r rhyfel cartre’ yn Syria fod yn aelodau o’r mudiad Islamic State efo’u bryd ar wneud eu ffordd i’r Unol Daleithiau.

“Dw i’n rhybuddio nawr, fel bod y bobol sy’n dod yma o Syria yn deall,” meddai Donald Trump, “os ydw i’n ennill yr etholiad, y byddan nhw’n mynd adre’.

“Gallai hwn fod yn un o gynllwyniau mwya’ hanes,” meddai wedyn. “Byddin o 200,000 o ddynion. Mae’n hollol bosib.”

Mae miliynau o bobol o Syria wedi bod yn ffoi o’r wlad, lle mae rhyfel wedi lladd mwy na 250,000 o bobol ers Mawrth 2011. Mae cymaint a 9 miliwn o bobol wedi cael eu gwneud yn ddigartre’, ac mae hynny’n cynnwys 4 miliwn sydd wedi gadael y wlad.