Bydd gweinidogion materion cartref yr Undeb Ewropeaidd yn cyfarfod heddiw ym Mrwsel i drafod sut i ail-leoli 120,000 o ffoaduriaid sydd newydd gyrraedd Ewrop.

Mae grŵp o wledydd Ewrop wedi gwrthod galwadau i aelodau o’r Undeb Ewropeaidd dderbyn cwotâu gorfodol, ac mae Hwngari, sy’n gwrthwynebu’r system cwotâu’n llym wedi dweud bod ffiniau Ewrop dan fygythiad.

Posib y bydd rhaid gwthio penderfyniad

Bydd y grŵp sy’n cwrdd heddiw yn gobeithio dod i gytundeb cyn y cyfarfod argyfwng a fydd yn cael ei gynnal gan arweinwyr yr Undeb Ewropeaidd ddydd Mercher.

Mae Hwngari, Gwlad Pwyl, Slofacia a’r Weriniaeth Tsiec i gyd yn gwrthwynebu cwotâu ond roedd Gweinidog Tramor y Weriniaeth Tsiec, Lubomir Zaoralek wedi mynnu bod y pedwar yn “gwbl ymroddedig” i ddod o hyd i ateb.

Os bydd yr anghytuno’n parhau, gall gweinidogion wthio cytundeb drwy gael pleidlais o fwyafrif, yn hytrach na chael penderfyniad unfrydol.

Mae digon o wledydd o blaid y cynnig i ffurfio mwyafrif ond mae ymdrechion yn dal i barhau i ddod o hyd i gyfaddawd.