Mae penaethiaid Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd wedi rhoi croeso brwd i’r newyddion bod eu huned llawfeddygaeth cardiaidd ymhlith y tri sy’n perfformio orau yn y DU.

Yn ôl ffigyrau’r Gymdeithas Lawfeddygaeth Gardiaidd, mae 98.67% o gleifion o sy’n mynd i’r uned yng Nghaerdydd yn goroesi.

Dim ond ysbytai yn Southampton ac Ysbyty Papworth yng Nghaergrawnt oedd a ffigurau uwch yn y cyfnod rhwng mis Ebrill 2011 a mis Mawrth y llynedd.

Daw’r ffigurau ddwy flynedd ar ôl i Goleg Brenhinol y Llawfeddygon feirniadu’r ysbyty oherwydd rhestrau aros hir.

Dywedodd Indu Deglurka, ymgynghorydd ac un o brif lawfeddygon y galon, bod cynnydd wedi’i wneud wrth geisio mynd i’r afael a rhestrau aros hir a bod yr Ysbyty Athrofaol bellach yn cwrdd â thargedau sydd wedi’u gosod gan Lywodraeth Cymru.

Ychwanegodd Indu Deglurka eu bod “wrth eu bodd” gyda’r ffigurau diweddaraf a’u bod yn “adlewyrchu pa mor dda mae’r tîm yn gweithio a safon y gofal sy’n cael ei ddarparu.”

Y llynedd cafod 900 o lawdriniaethau ar y galon eu cynnal yn Ysbyty Athrofaol Cymru gyda’r ffigwr yn cynyddu i 1,000 eleni. Mae’r ysbyty yn anelu i gynnal 1,300 erbyn diwedd y degawd.