Mae senedd Japan wedi rhoi sêl bendith i ddeddfwriaeth ddadleuol i lacio’r hualau ar fyddin y wlad, gan roi mwy o rol iddi yn rhedeg y wlad.

Mae’r ffaith fod yr uwch-siambr wedi pasio’r cynigion yn eu troi yn gyfraith, gan lacio rheolau oedd mewn lle ers diwedd yr Ail Ryfel Byd ynglynâ faint o rym oedd hi’n iawn i filwyr eu defnyddio yn erbyn pobol y wlad.

Roedd y ddeddfwriaeth eisoes wedi’i phasio gan y siambr gyntaf – sy’n fwy pwerus na’r uwch-siambr – ym mis Gorffennaf eleni. Bryd hynny, fe fu nifer o brotestiadau a thrafodaethau ynglyn ag oblygiadau’r gyfraith newydd.

Roedd nifer yn galw ar i Japan lynu wrth ei ffyrdd heddychlon wrth geisio mynd i’r afael â materion yn ymwneud â bygythiadau terfysgol.