Mae dyn o wledydd Prydain yn wynebu oes o garchar ar ôl pledio’n euog i gynllwynio i fewnforio 100 cilo o methamphetamine o Ogledd Corea i’r Unol Daleithau.
Cafodd Scott Stammers, 46, ei arestio ynghyd â pedwar diffynydd arall yn dilyn ymchwiliad hir gan asiantaeth daclo cyffuriau America – y DEA.
Fe roedd Scott Stammers wedi cynllwynio i fewnforio dros 100 cilogram o methamphetamine pur, ac fe wnaeth y DEA gydweithio gyda awdurdodau mewn sawl gwlad yn cynnwys Gwlad Thai, Liberia a Romania.