Mae hacwyr wedi rhyddhau talp arall o ddata oddi ar wefan Ashley Madison.

Fe wnaethon nhw achosi stŵr yn gynharach yr wythnos hon trwy gyhoeddi manylion miliynau o ddefnyddwyr y wefan godinebu sy’n trefnu i bobol briod gael affêrs.

Roedd grŵp o hacwyr o’r enw Impact Team eisoes wedi rhyddhau manylion llawer o ddefnyddwyr y wefan ar y ‘we dywyll’.

Nawr maen nhw wedi rhyddhau data yn ymwneud â staff a strwythurau’r wefan, a allai gael ei ddefnyddio i dargedu cwmnïau eraill Avid Life Media (ALM), sydd biau Ashley Madison.

Mae’r data a gyhoeddwyd eisoes wedi arwain at bobol briod yn gofyn am ysgariad, gyda chwmni cyfreithwyr Mills and Reeve yn dweud bod un ddynes briod wedi cysylltu â nhw am gyngor ar ôl darganfod manylion ei gŵr ar y wefan.

Problemau diogelwch

Yn ôl adroddiadau, fodd bynnag, mae rhai defnyddwyr ar y ‘we dywyll’ sydd wedi ceisio agor y ffolder gyda’r ail lith o ddata wedi cael trafferthion gwneud hynny.

Mae’n debyg bod gweddill y data sydd wedi cael ei ryddhau yn cynnwys codau ar gyfer gwefan Ashley Madison yn esbonio sut y cafodd ei adeiladu a beth yw’r camau diogelwch sydd o’i chwmpas.

Yn ôl pennaeth cwmni diogelwch cyber TrustedSec, Dave Kennedy, fe allai’r wybodaeth newydd gael ei ddefnyddio i dargedu gwefannau cwmnïau eraill ALM.

Pan gyhoeddodd Impact Team fanylion defnyddwyr Ashley Madison, fe ddywedon nhw eu bod yn gwneud hynny oherwydd eu bod yn anghytuno ag egwyddorion y wefan o hwyluso’r broses o bobl yn twyllo ar eu partneriaid.

Fe ddywedon nhw hefyd fod Ashley Madison wedi twyllo eu defnyddwyr wrth ddweud y byddan nhw’n dileu eu holl fanylion o’u system am ffi o £15, tra’r oedden nhw mewn gwirionedd wedi parhau i’w cadw.