Palas Domabahce, Istanbul
Mae saethwyr wedi tanio bwledi at yr heddweision sy’n gwarchod Palace Dolmabache ym mhrifddinas Twrci – y place o gyfnod ymherodraeth yr Ottoman sydd bellach yn atyniad twristaidd.

Mae asiantaeth newyddion Dogan yn y wlad yn adrodd na chafodd neb ei anafu yn y digwyddiad, ond bod dau o bobol wedi’u harestio yn fuan iawn. Mae’r heddlu yn Istanbul yn gwrthod gwneud sylw ar y mater ar hyn o bryd.

Fe ddaw’r digwyddiad hwn yn sgil nifer o adroddiadau eraill o drais rhwng y lluoedd diogelwch a’r rebeliaid Cwrdaidd sy’n cynnal eu hymgyrch yn ne-ddwyrain y wlad.