Julian Assange
Mae Awdurdod Erlyn Sweden wedi rhoi’r gorau i ymchwilio i rai o’r cyhuddiadau rhyw yn erbyn sylfaenydd WikiLeaks, Julian Assange, oherwydd fod cymaint o amser wedi heibio ers y digwyddiadau honedig.
Yn ôl datganiad gan y Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus, Marianne Nye, mae’r ymchwiliad i ymyrryd rhywiol a gorfodaeth anghyfreithlon honedig wedi dirwyn i ben. Bydd cyhuddiad arall yn cael ei ddileu ar Awst 18 eleni, ond fe fydd yr ymchwiliad i’r cyhuddiad o dreisio yn parhau.
Cynhaliwyd y digwyddiadau honedig bum mlynedd yn ôl, ym mis Awst 2010.
Dywedodd Julian Assange, sydd wedi bod yn byw yn llysgenhadaeth Ecwador yn Llundain ers dros dair blynedd ar ôl cael lloches gwleidyddol, ei fod yn “siomedig dros ben” nad oedd erlynydd Sweden wedi clywed ei ochr o o’r stori.
Ceisiodd Assange gael lloches yn y llysgenhadaeth Ecwador oherwydd ei fod yn ofni y byddai teithio i Sweden i gael ei gyfweld yn golygu cael ei estraddodi i’r Unol Daleithiau i gael ei holi am weithgareddau WikiLeaks.