Ymfudwyr yn ceisio dringo ar lori yn Calais
Mae swyddogion diogelwch ychwanegol ar ddyletswydd yn Calais i geisio mynd i’r afael a’r argyfwng ymfudwyr yn y porthladd.

Yn y cyfamser mae ’na alwadau ar David Cameron i ddod a’i wyliau i ben er mwyn iddo gael gweld y problemau sy’n wynebu gyrwyr loriau.

Yn ôl prif weithredwr y Gymdeithas Cludiant Ffyrdd (RHA) Richard Burnett nid oes modd i’r Prif Weinidog ddeall pa mor ddifrifol yw’r sefyllfa oni bai ei fod yn gweld yr “amodau gwarthus” a’r “anhrefn” sy’n wynebu gyrwyr loriau.

Mae lorïau wedi cael eu targedu’n gyson gan ymfudwyr sy’n ceisio cyrraedd y DU.

Mae ’na bwysau ar y Llywodraeth i sicrhau datrysiad tymor hir i’r argyfwng ac mae’r Ysgrifennydd Tramor Philip Hammond yn mynnu bod yr argyfwng dan reolaeth a bod 100 o swyddogion diogelwch ychwanegol ar ddyletswydd.