Barack Obama
Dywed Barack Obama, arlywydd America, ei fod yn llawenhau o weld bod ‘Affrica yn gyfandir sy’n symud ymlaen’ wrth iddo agor uwch-gynhadledd fusnes yn Kenya, gwlad enedigol ei dad.

“Affrica yw un o’r rhanbarthau sy’n tyfu gyflymaf yn y byd,” meddai. “Mae pobl yn cael eu codi allan o dlodi.”

Ef yw’r cyntaf o arlywyddion America i ymweld â Kenya yn ei swydd.

Yn ei araith heddiw, cyhoeddodd gyfraniad o dros biliwn o ddoleri gan lywodraeth a busnesau America i hybu economi Kenya, gyda’i hanner yn mynd at helpu merched a phobl ifanc.

“Os nad yw hanner eich tîm yn chwarae, mae gennych broblem,” meddai Barack Obama, wrth bwysleisio’r angen am i ferched gael chwarae mwy o ran yn natblygiad y wlad.

Cyrhaeddodd Nairobi yn hwyr neithiwr gan dreulio’r noson gyda theulu ei dad. Fe fydd yn annerch pobl Kenya mewn araith yfory cyn gadael am Ethiopia ddydd Llun.