Y diweddar Jules Bianchi
Mae gyrrwr Fformiwla Un a gafodd ei anafu’n ddifrifol yn ystod ras Grand Prix Japan y llynedd, wedi marw yn yr ysbyty.
Fe gafodd y newyddion am farwolaeth y Ffrancwr, Jules Bianchi, ei gyhoeddi ar wefan gymdeithasol Twitter, cyn i lefarydd ar ran tim Fformiwla Un, Manor F1, gadarnhau’r ffeithiau.
Roedd Jules Bianchi, 25, wedi bod mewn coma oddi ar y ddamwain yn Japan ar Hydref 5, 2014, pan fu mewn gwrthdrawiad â chraen symudol a oedd yn cael ei ddefnyddio i godi car rasio arall oddi ar y trac.
Roedd Jules Bianchi wedi cystadlu mewn 34 o rasus yn ystod tymhorau 2013 a 2014, gan ddod y gyrrwr cynta’ i sgorio pwyntiau i’w dim, Manor – a oedd yn mynd dan yr enw Marussia ar y pryd – a chan orffen yn bumed yn ras Grand Prix Monaco y llynedd.
Bu farw yn Centre Hospitalier Universitaire yn ei dref enedigol, Nice, lle’r oedd wedi bod ers derbyn triniaeth frys yn Japan yn syth wedi’r ddamwain.