Cipiodd Morgannwg fuddugoliaeth gyffrous ac angenrheidiol oddi ar belen ola’r ornest yn erbyn Spitfires Swydd Gaint yn Tunbridge Wells yn y T20 Blast heno i gadw eu gobeithion o gyrraedd rownd yr wyth olaf yn fyw.

Un rhediad oedd ynddi wrth i Forgannwg ddod o fewn trwch blewyn o fynd allan o’r gystadleuaeth, ond mae’r canlyniad yn golygu y byddai ennill yn erbyn Swydd Gaerloyw wythnos i heno yn y Swalec SSE yn eu cadw yn y gystadleuaeth yn fathemategol wrth i’r gemau grŵp ddod i ben.

Seren y noson gyda’r bat oedd Graham Wagg, a darodd 53 heb fod allan oddi ar 28 o belenni.

Ond y bowliwr cyflym o Awstralia, Michael Hogan gipiodd y wicedi tyngedfennol yn y belawd olaf un i selio’r fuddugoliaeth.

Roedd angen 15 oddi ar y belawd olaf ar y Spitfires, ond cafodd Darren Stevens ei ddal gan Chris Cooke ar y ffin cyn i Calum Haggett gael ei redeg allan wrth fentro am ail rediad a fyddai wedi sicrhau gêm gyfartal oddi ar y belen olaf.

Crynodeb

Penderfynodd Morgannwg fatio’n gyntaf ar ôl galw’n gywir, ond fe gollodd y Cymry wiced Colin Ingram yn yr ail belawd wrth i Sam Northeast ddal ei afael ar y bêl yn y cyfar ychwanegol oddi ar fowlio Mitch Claydon.

Daeth sefydlogrwydd i fatiad Morgannwg wrth i’r capten Jacques Rudolph a Ben Wright adeiladu partneriaeth o 52 yn y cyfnod clatsio cyn i’r gŵr o Dde Affrica gael ei fowlio gan Matt Hunn am 37.

Dilynodd Wright yn fuan wedyn, wrth iddo daro pelen gan y troellwr James Tredwell yn syth i ddwylo Hunn oedd yn maesu’n sgwâr ar y ffin.

Cwympodd trydedd wiced o fewn dim o dro wrth i Craig Meschede gam-ergydio pelen gan Fabian Cowdrey i ddwylo Claydon yn safle’r trydydd dyn ar ymyl y cylch.

Cafodd Mark Wallace ei fowlio oddi ar iorcer gan Hunn, ac fe darodd Chris Cooke chwech cyn cael ei ddal ar y ffin oddi ar y belen nesaf.

Tarodd Graham Wagg ddau chwech yn y ddeunawfed belawd oddi ar Calum Haggett, ac roedd y belawd olaf gan Haggett yn gymysgedd o’r da a’r drwg wrth iddo ildio dau chwech ar ôl bowlio David Lloyd.

Gyda nod o naw y belawd am y fuddugoliaeth, cyrhaeddodd y Spitfires 50 o fewn pum pelawd, ac fe gyrhaeddodd Joe Denly ei hanner canred oddi ar 27 o belenni.

Collodd Daniel Bell-Drummond a Denly (70) eu wicedi yn gyflym, a hynny ar ôl i Denly gyrraedd ei gyfanswm unigol gorau’r tymor hwn.

Wrth i’r Spitfires golli Denly, agorodd y llifddorau wrth i Sam Northeast, Sam Billings a Fabian Cowdrey ddychwelyd i’r pafiliwn i roi eu tîm dan bwysau sylweddol.

Tarodd Darren Stevens yn ôl yn y pelawdau clo, ond roedd y nod yn ormod wrth i Ingram redeg Haggett allan oddi ar y belen olaf i sicrhau’r fuddugoliaeth dyngedfennol i Forgannwg.

Er gwaetha’r canlyniad, mae’r Spitfires eisoes wedi sicrhau eu lle yn yr wyth olaf, ac fe allai Morgannwg ymuno â nhw pe baen nhw’n curo Swydd Gaerloyw wythnos i heno.

Ar ddiwedd yr ornest, dywedodd prif hyfforddwr Morgannwg, Toby Radford: “Ry’n ni wedi dangos parodrwydd i frwydro wrth chwarae criced y tymor hwn, boed yn y T20 neu’r Bencampwriaeth, lle’r y’n ni wedi bod o dan bwysau ond wedi sicrhau buddugoliaeth yn y pen draw. Roedd heno’n enghraifft berffaith o hynny.

“Mae’n gêm enfawr i ni nos Wener nesaf, gartref yn erbyn Swydd Gaerloyw, a gobeithio y gallwn ni wneud yn dda bryd hynny a bod canlyniadau eraill o’n plaid ni.

“Byddai’n beth enfawr i’r clwb pe baen ni’n cyrraedd y rowndiau terfynol.

“Ry’n ni wedi chwarae mewn modd pytiog ar y cyfan, ond roedd Hogan a Wagg yn wych i ni heno.”