Mae Morgannwg yn teithio i Tunbridge Wells heno gan wybod fod rhaid iddyn nhw sicrhau buddugoliaeth dros Spitfires Swydd Gaint i gadw eu gobeithion o gyrraedd rownd wyth ola’r T20 Blast yn fyw.

Mae Morgannwg yn drydydd y tu ôl i’w gwrthwynebwyr a Siarcod Swydd Sussex, ond mae eu cyfradd sgorio’n is o lawer na siroedd eraill o’u cwmpas yn y tabl.

Dywedodd is-hyfforddwr Morgannwg, Robert Croft: “Rhaid i ni gadw i asesu’r sefyllfa o’i gymharu â’n cyfradd sgorio ond yn fwy na dim, rhaid i ni ennill ac os daw cyfle i roi’n traed ar y sbardun, dyna ni.”

Ond mae Morgannwg hefyd yn sylweddoli pa mor gryf yw eu gwrthwynebwyr, ar ôl iddyn nhw ennill naw allan o 12 gêm yn y gystadleuaeth hyd yn hyn – gan gynnwys pump o’r bron – a dydy’r Cymry erioed wedi eu curo yn y T20 Blast.

Mae un newid yng ngharfan Morgannwg, wrth i Aneurin Donald gael cyfle arall i ddisgleirio yn dilyn ei fatiad o 67 yn erbyn Swydd Essex yn y Bencampwriaeth ddechrau’r wythnos hon.

Carfan 13 dyn Spitfires Swydd Gaint: S Northeast (capten), D Bell-Drummond, J Denly, S Billings, F Cowdrey, D Stevens, A Blake, S Dickson, A Ball, C Haggett, J Tredwell, M Claydon, M Hunn

Carfan 12 dyn Morgannwg: J Rudolph (capten), C Ingram, A Donald, B Wright, C Cooke, C Meschede, G Wagg, M Wallace, D Lloyd, A Salter, D Cosker, M Hogan