John Kerry, Ysgrifennydd Gwladol America (llun swyddogol)
Mae gobaith cryf y bydd cytundeb niwclear hanesyddol rhwng America ac Iran yn cael ei gyhoeddi yfory.

Y disgwyl yw y bydd y cytundeb yn cwtogi ar raglen atomig Iran yn gyfnewid am ddileu gwaharddiadau masnach yn erbyn y wlad.

Dywedodd John Kerry, Ysgrifennydd Gwladol America, ei fod yn gobeithio y bydd bron i ddegawd o ymdrechion rhyngwladol yn arwain at gytundeb hanesyddol o’r diwedd.

Mae’r rownd bresennol o drafodaethau yn Vienna wedi parhau am fwy na phythefnos gan dorri trwy dair dedlein.