Dafydd Elis-Thomas
Mae Leanne Wood, arweinydd Plaid Cymru, wedi cadarnhau bod swyddogion y blaid yn trafod camau disgyblu yn erbyn Dafydd Elis-Thomas.

Wrth siarad ar raglen The Politics Show heddiw, gwrthododd ag ymhelaethu ar gynnwys trafodaethau sydd ymlaen rhwng y Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol a Phwyllgor Etholaeth Dwyfor Meirionnydd ar ddyfodol yr Aelod Cynulliad.

“Mater i’r blaid a’r pwyllgor gwaith yw unrhyw faterion fel hyn,” meddai Leanne Wood.

Mae cyn-lywydd y Cynulliad wedi bod yn feirniadol o bolisïau ei blaid ei hun ar sawl achlysur, a’r gred yw mai ei sylwadau diweddar ar ddiffygion yn yr ymgyrch etholiadol ym mis Mai sydd wedi ysgogi’r camau yn ei erbyn.

‘Problem fawr’

Er na wnaeth gyfeirio’n bersonol at Dafydd Elis-Thomas, dywedodd Leanne Wood:

“Mae’n broblem fawr os yw ymgeiswyr yn dadlau’n groes i’r lein y mae’r blaid wedi cytuno arni, ac mae digon o gyfleoedd o fewn y blaid yn fewnol i leisio barn.”

Mae Dafydd Elis-Thomas yn un o wleidyddion amlycaf Plaid Cymru ers dros 40 mlynedd, a bu’n arweinydd arni rhwng 1984 ac 1991.

Er hynny, mae’n ffigur dadleuol ymysg ei gyd-wleidyddion yn ei blaid ei hun, ac nid yw’n gyfrinach fod ymdrechion ar droed gan rai i gael gwared arno fel ymgeisydd dros etholaeth Dwyfor Meirionnydd y flwyddyn nesaf.