Mae’r Unol Daleithiau wedi gwneud cais ffurfiol i estraddodi saith o swyddogion Fifa gafodd eu harestio yn Zurich yn Y Swistir fis diwethaf.
Dywedodd swyddogion cyfiawnder yn Y Swistir eu bod wedi derbyn y ceisiadau ddoe.
Mae’n dilyn ymchwiliad gan yr Unol Daleithiau i honiadau o dwyll a llygredd gwerth £64 miliwn yn ymwneud a swyddogion y corff llywodraethu pêl-droed rhyngwladol.
Mae’r saith dyn eisoes wedi gwrthwynebu cael eu hestraddodi.
Fe fyddan nhw’n cael 14 diwrnod i ymateb i swyddogion ffederal ynglŷn â’r cais ac yna fe fydd y Swyddfa Ffederal yn dyfarnu a ddylen nhw gael eu hestraddodi.
Ymhlith y saith gafodd eu harestio ar 27 Mai mewn gwesty yn Zurich, mae is-lywydd Fifa Jeffrey Webb o Ynysoedd y Cayman, a chyn is-lywydd Fifa, Eugenio Figueredo o Wrwgwai.
Y rhai eraill yw Jose Maria Marin, o Frasil, aelod o banel Fifa sy’n trefnu’r twrnameintiau yng Ngemau Olympaidd Rio de Janeiro; pennaeth Cymdeithas Bêl-droed Venezuela, Rafael Esquivel; swyddog datblygu Fifa, Julio Rocha o Nicaragua, a Costas Takkas o Brydain sy’n gweithio i Jeffrey Webb.
Mae’r saith ymhlith 14 o bobl sy’n wynebu cyhuddiadau yn dilyn ymchwiliad yr Unol Daleithiau. Mae pedwar ohonyn nhw wedi pledio’n euog i’r cyhuddiadau.