Mae Tunisia ar arfordir gogledd Affrica'n gyrchfan wyliau boblogaidd i ymwelwyr o Brydain
Fe ddaeth i’r amlwg bellach fod o leiaf 15 o bobl o Brydain ymhlith y 39 a gafodd eu llofruddio gan saethwr ar draeth poblogaidd yn Tunisia ddoe.

Roedd y Prif Weinidog David Cameron wedi rhybuddio’n gynharach heddiw y byddai llawer mwy o Brydeinwyr wedi cael eu lladd na’r rhai a gafodd eu cadarnhau ar y cychwyn.

Dywedodd y Gweinidog Tramor Tobias Ellwood mai’r gyflafan yn Sousse yw’r ymosodiad gwaethaf ar Brydeinwyr ers 7 Gorffennaf 2005 pryd y cafodd 52 eu lladd.

Mae’r eithafwyr treisgar Islamic State wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad gan ddyn ifanc a oedd wedi cuddio ei ddryll Kalashnikov mewn parasol.

Canfuwyd bom hefyd ar ei gorff ar ôl iddo gael ei saethu’n farw gan yr heddlu.

Ymysg y rhai a gafodd eu hanafu yr oedd Matthew James, 30 oed, o Drehafod ger Pontypridd, a oedd wedi cael ei saethu yn ei ysgwydd, brest a’i glun wrth geisio amddiffyn ei gariad Saera Wilson. Llwyddodd hi i ddianc yn ddianaf, ac wrth siarad o’r ysbyty lle mae ei chariad yn derbyn triniaeth, dywedodd mai iddo ef oedd y diolch ei bod yn dal i fyw.

Hwn oedd yr ymosodiad gwaethaf o’i fath yn hanes Tunisia, ac fe ddigwyddodd yr un diwrnod ag ymosodiad gan eithafwyr Islamaidd ar ffatri yn Ffrainc, lle cafodd un dyn ei ddienyddio, a ffrwydrad mewn mosg yn Kuwait lle cafodd o leiaf 25 o bobl eu lladd.