Mae gwasanaeth angladd cyntaf rhai o’r bobl gafodd eu saethu’n farw mewn eglwys yn Charleston wedi cael ei chynnal, gyda channoedd o alarwyr yn bresennol.

Roedd Ethel Lance, 70, un o naw o bobl oedd yn gweddïo yn Eglwys Esgobol Fethodistaidd Affricanaidd pan gawson nhw eu saethu’n farw gan ddyn ifanc gwyn, Dylann Roof, mewn ymosodiad hiliol.

Bu’r galarwyr yn canu yn ystod rhan helaeth o’r gwasanaeth, er cof am ddynes oedd yn hoff iawn o’i cherddoriaeth emynau.

Cafodd gwasanaeth hefyd ei chynnal ar gyfer Sharonda Coleman-Singleton, oedd yn 45 oed, a heddiw fe fydd angladd y Parchedig Clementa Pinckney.

Ffrae am fflagiau

Daw’r angladdau ar ddiwedd wythnos ble mae ffraeo mawr wedi bod yn rhai o daleithiau de’r UDA ynglŷn â baneri a symbolau o’r Taleithiau Cydffederal, oedd wedi ymladd i geisio cadw caethwasiaeth yn ystod Rhyfel Cartref America.

Mae hi wedi dod i’r amlwg bod gan y saethwr Dylan Roof nifer o luniau ohono’i hun gyda fflagiau a symbolau o’r fath, yn ogystal â lluniau mewn amgueddfeydd Cydffederal a stadau ble roedd caethweision yn arfer gweithio.

Eisoes mae nifer o gerfluniau o filwyr Cydffederal wedi eu fandaleiddio gyda sloganau gan gynnwys “Black Lives Matter”, ac mae protestwyr sydd yn ymgyrchu o blaid y faner Cydffederal wedi cynnig gwobrau ariannol am ganfod y bobl sydd yn gyfrifol.

Bu i lywodraethau taleithiau De Carolina ac Alabama dynnu baneri Cydffederal oddi ar eu hadeiladau.