Mae Llywodraeth Prydain wedi sefydlu tasglu i ddelio ag argyfwng smyglwyr Môr y Canoldir.
Daw hyn yn dilyn y pryder y bydd mewnfudwyr Môr y Canoldir yn ceisio dod i’r Deyrnas Unedig. Yn 2014, gwelwyd cynnydd o 300% o ffoaduriaid sy’n ceisio gadael Affrica am Ewrop.
Mae aelodau’r tasglu wedi’u tynnu o asiantaethau trosedd, rheolaeth mewnfudo a Gwasanaeth Erlyn y Goron ac fe fydd tua 90 ohonyn nhw wedi’u gwasgaru ar draws gwledydd Prydain, Yr Eidal a gogledd ddwyrain Affrica.
Dal cychod
Bydd rhan gyntaf cynllun y tasglu yn canolbwyntio ar rwydweithiau a llwybrau’r cychod ar draws y mor.
Bydd ail ran y cynllun yn cynnwys gweithredu’n uniongyrchol yn erbyn y smyglwyr.
Yn ôl llefarydd ar ran 10 Downing Street, “byddan nhw’n cydweithio â gwledydd Ewrop i roi terfyn ar droseddau mewnfudwyr Môr y Canoldir gan warchod y Deyrnas Unedig”.
“Fe fydd y tîm yn ceisio dal y cychod sy’n cludo’r mewnfudwyr tua’r Gogledd,” meddai’r Gweinidog Mewnfudo, James Brokenshire.