Bydd gweinidogion cyllid gwledydd parth yr ewro yn ymdrechu o’r newydd i gyrraedd cytundeb ynglŷn ag  argyfwng dyled Gwlad Groeg heddiw.

Mae pryder nad oes digon o amser i daro bargen cyn i’r wlad fethu a gwneud ad-daliad o’i dyledion wythnos nesa, ac fe all hynny fod yn drychinebus i’r Llywodraeth ac i’r wlad.

Bydd gweinidogion cyllid o 19 o aelodau parth yr ewro yn cyfarfod ym Mrwsel heddiw. Daeth y sgyrsiau i ben yn gynnar ddydd Llun oherwydd bod cynllun newydd i ddiwygio economi Gwlad Groeg wedi cyrraedd yn rhy hwyr.

Os nad ydyn nhw’n gallu cytuno ar gynllun heddiw cyn ei roi ger bron cyfarfod o arweinwyr yr Undeb Ewropeaidd  yfory yng Ngwlad Belg, gallai Gwlad Groeg fod y wlad gyntaf i gael ei gorfodi i adael yr ewro, gyda chanlyniadau a allai fod yn bellgyrhaeddol dros y cyfandir cyfan.