Mae llongau o Norwy a Denmarc wedi achub bron i 1,000 o ffoaduriaid oddi ar arfordir Libya yn y 24 awr ddiwethaf.

Dywedodd Svein Kvalavaag, capten llong fasnach Norwyaidd, ei fod wedi achub 671 o bobl o ddau gwch pren ddoe. Yna’n hwyr neithiwr, gofynnwyd iddo gymryd 99 yn rhagor  o ffoaduriaid oedd wedi eu hachub gan dancer olew o Rwsia.

Dywedodd Svein  Kvalavaag fod y 770 o bobl yn cynnwys 140 o ferched, gyda thair ohonynt yn feichiog, a 45 o blant. Maen nhw i gyd wedi cael eu cludo i Ynys Sisili.

Dywedodd Jesper Jensen, llefarydd ar ran y cwmni sydd yn berchen ar y llong o Ddenmarc, bod tancer olew’r cwmni wedi ymateb i alwad gan Wylwyr y Glannau yn yr Eidal ddoe ar ôl i ddau gwch oedd yn cludo ffoaduriaid fynd i drafferthion oddi ar arfordir Libya.

Dywedodd heddiw fod y llong wedi achub 222 o bobl cyn mynd a nhw i Calabria yn yr Eidal.

Ychwanegodd Jesper Jensen ei fod yn falch fod y criw wedi achub cymaint o fywydau.

Yn y misoedd diwethaf, mae miloedd o ffoaduriaid wedi bod yn croesi Môr y Canoldir i gyrraedd yr Eidal a Gwlad Groeg gyda’r gobaith o fynd ymlaen i weddill Ewrop. Mae tua 2,000 o bobl ar goll.