Mumbai
Mae bellach 84 o bobol wedi marw yn un o slymiau dinas Mumbai yn India, wedi iddyn nhw yfed alcohol wedi’i lygru.

Mae 31 o bobol eraill yn cael eu trin yn yr ysbyty, a 13 o’r rheiny mewn cyflwr difrifol. Mae pob un ohonyn nhw wedi yfed yr un ddiod rad yn ardal ogleddol Malad y ddinas nos Fercher. Fe aethon nhw i deimlo’n sâl yn syth bin.

Mae pump o bobol wedi’u harestio ar amheuaeth o gario ac o werthu’r alcohol llygredig i weithwyr tlawd.

Mewn digwyddiad tebyg yn y flwyddyn 2004, bu farw 104 o bobol ar ôl yfed alcohol gwenwynig yn ardal Vikhroli o’r un ddinas.