Mae dyn wedi gyrru ei fan i mewn i dyrfa o bobol yng nghanol dinas Graz yn Awstria, gan ladd tri o bobol ac anafu nifer o bobol eraill.

Mae heddlu lleol wedi cadarnhau i hyn ddigwydd heddiw, ond maen nhw wedi gwrthod datgelu mwy o fanylion na chadarnhau faint yn union sydd wedi’u lladd a’u hanafu.

Mae gorsaf deledu ORF yn Awstria wedi cyhoeddi fod y gyrrwr wedi cael ei arestio a bod yr heddlu wedi cau’r ardal o gwmpas y sgwar yn Graz, ail ddinas y wlad.