Wythnos i heddiw, fe fydd pobl Cil-y-Coed a gweddill Sir Fynwy a’r ardal yn cael blas o’r Orsedd a seremonïau yr Eisteddfod Genedlaethol, wrth i gastell y dref gynnal seremoni’r Cyhoeddi, flwyddyn cyn i’r brifwyl ymweld â thref Y Fenni ddechrau Awst, 2016.
Bydd perfformwyr ac ysgolion lleol yn ymddangos ar ddau lwyfan ar Ffordd Casnewydd yng nghanol y dref o 10.00 ymlaen gyda phwyslais arbennig ar gerddoriaeth a dawns.
Bydd gorymdaith yr Orsedd yn gadael canol y dref toc wedi 2yp er mwyn cerdded i erddi’r castell. Bwriad yr orymdaith yw dangos y croeso a’r brwdfrydedd sy’n bodoli’n lleol ar gyfer yr Eisteddfod, ac mae hefyd yn gyfle i’r Brifwyl edrych ymlaen at ei ymweliad â’r ardal.
Unwaith mae’r orymdaith yn cyrraedd y castell cynhelir Seremoni’r Cyhoeddi, a bydd Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith lleol yn cyflwyno’r copi cyntaf o’r Rhestr Testunau i’r Archdderwydd.
“Rydym i gyd yn edrych ymlaen at y Cyhoeddi’n arw yma’n lleol, ac mae gerddi Castell Cil-y-Coed yn leoliad perffaith ar gyfer y seremoni,” meddai Frank Olding, Cadeirydd y pwyllgor gwaith lleol.
“Mae’n ddathliad o’r iaith Gymraeg a’n diwylliant i gyd, sy’n cynnwys pob math o gerddoriaeth, dawns, celfyddydau gweledol, gwyddoniaeth a thechnoleg, llenyddiaeth, gwerin, drama a chymaint mwy. Ac mae croeso cynnes i bawb – yn siaradwyr Cymraeg, dysgwyr a’r di-Gymraeg.
“Mae’r Eisteddfod yn un o wyliau celfyddydol mawr y byd, ac rwy’n gobeithio y bydd pobl o bob cwr o Sir Fynwy, Cymru a thu hwnt yn tyrru i’r Fenni mewn ychydig dros flwyddyn i fwynhau’r awyrgylch a’r gweithgareddau. Rydym ni’n edrych ymlaen i’ch gweld yn barod!”