Protestwyr yn Burundi
Mae milwyr arfog wedi cael eu hanfon i brifddinas Burundi i geisio tawelu protestwyr sy’n gwrthwynebu cais yr Arlywydd am drydydd tymor.

Fe fethodd ymdrech i gipio rheolaeth o’r llywodraeth y penwythnos diwethaf.

Yn ardal Musaga yn y brifddinas Bujumbura, mae milwyr gyda gynnau wedi dod wyneb yn wyneb a channoedd o brotestwyr sy’n galw ar yr Arlywydd Pierre Nkurunziza i roi’r gorau i’w benderfyniad i geisio am dymor arall.

Mae nifer o’r protestwyr yn dweud ei fod yn anghyfansoddiadol.

Yn ôl adroddiadau, roedd y milwyr wedi tanio gynnau at y protestwyr.

Fe ddechreuodd y protestiadau yn y wlad ar 26 Ebrill ac mae disgwyl i’r etholiad arlywyddol gael ei chynnal ar 26 Mehefin.

Yn ôl y Cenhedloedd Unedig mae 105,000 o bobl Burundi wedi ffoi i wledydd cyfagos yn ddiweddar.