Dafydd Raw-Rees
Mae dau ddyn o Geredigion wedi pledio’n euog i gam-labelu cig gafr o dramor fel cig oen o Brydain.

Roedd archwilwyr bwyd wedi darganfod “swm sylweddol” o gig gafr wedi’i labelu fel cig oen yn Farmbox Meats yn Llandre ger Aberystwyth yn ystod yr helynt cig ceffyl yn 2013, clywodd Llys y Goron Southwark yn Llundain.

Roedd disgwyl i berchennog y cwmni Dafydd Raw-Rees a’r rheolwr Colin Patterson, sefyll eu prawf yn Llys y Goron Southwark ond fe blediodd y ddau yn euog i’r cyhuddiadau o gam-labelu cig a thorri rheolau olrhain bwyd.

Cafodd Colin Patterson ei ddedfrydu i 12 wythnos o garchar wedi ei ohirio am ddwy flynedd a chafodd  Dafydd Raw-Rees ei ryddhau’n  amodol am gyfnod o ddwy flynedd.

Yn wreiddiol roedd Colin Patterson wedi dweud bod y cam-labelu wedi digwydd oherwydd camgymeriad gan y staff.

Mae’r cwmni eisoes wedi mynd i’r wal.