Llys y Goron Caerdydd
Mae meddyg o Gas-gwent, sydd wedi’i gyhuddo o ladd beiciwr modur trwy yrru’n beryglus, wedi dweud wrth Lys y Goron Caerdydd ei fod wedi ceisio achub bywyd y gŵr 60 oed wedi iddo’i daro.
Roedd Vincent Hamlyn, 33, yn gyrru car BMW Z4 pan fu iddo wrthdaro gyda beic Kawasaki Kevin Morgan, 60, ar ffordd ddeuol ger Casnewydd y llynedd.
Mae llygad dystion eisoes wedi disgrifio sut yr oedd y ddau wedi ceisio bod “ar y blaen” wrth iddyn nhw ymuno â ffordd ddeuol yr A449.
Dywedodd yr erlyniad fod y ddau yn gyrru’n gyflymach na’r cyfyngiad cyflymder o 40 milltir yr awr – gyda Vincent Hamlyn yn teithio 62 i 68 milltir yr awr a Kevin Morgan yn teithio ar gyflymder o 56mya.
Bu farw Kevin Morgan o anafiadau difrifol i’w ben yn y fan a’r lle.
‘Ceisio ei achub’
“Fy adwaith gyntaf oedd ceisio darganfod curiad calon, ond doeddwn i ddim yn gallu dod o hyd i un,” meddai Vincent Hamlyn o Tutshill ger Cas-gwent wrth y llys.
“Fe wnes i a meddyg teulu oedd yn un o’r ceir y tu ôl i mi geisio ei helpu drwy wneud CPR am tua 20 munud.”
Dywedodd Vincent Hamlyn ei fod wedi ei “dristau’n ofnadwy” pan glywodd bod Kevin Morgan wedi marw, wrth iddo gael ei holi gan yr heddlu.
Digwyddodd y ddamwain ger cyfnewidfa Coldra ar yr M4 ger Casnewydd, ar 21 Mehefin y llynedd.
Mae Hamlyn yn gwadu un cyhuddiad o achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus.
Mae’r achos yn parhau.