Yr Arlywydd Barack Obama
Mae o leiaf chwech o bobl wedi’u lladd a mwy na 140 wedi’u hanafu ar ôl i drên Amtrak ddod oddi ar y cledrau yn Philadelphia yn yr Unol Daleithiau.

Roedd y trên Northeast Regional yn cludo 238 o deithwyr a phum aelod o’r criw pan ddigwyddodd y ddamwain toc cyn 9yh (amser lleol) ddoe.

Mae’r ddamwain yn golygu bod un o reilffyrdd brysuraf yr Unol Daleithiau ar gau tra bod ymchwilwyr yn ceisio darganfod beth ddigwyddodd.

Mae’r Arlywydd Barack Obama wedi mynegi ei “sioc a thristwch” o glywed am y ddamwain gan ddweud ei fod yn “drasiedi sy’n ein cyffwrdd ni i gyd.”

Mae wedi canmol y gwasanaethau brys am eu hymdrechion i achub bywydau.