Mae o leiaf 2,152 o bobol wedi marw yn dilyn daeargryn a chwymp eira yn Nepal ddoe.
Tarodd y daeargryn 7.8 ar y raddfa ardal Kathmandu ac mae ôl-gryniadau’n parhau heddiw.
Does dim rhagor o fanylion wedi cael eu rhoi hyd yn hyn.
Mae timau achub yn ymgynnull ac yn paratoi i deithio i Nepal i gynnig cymorth.
Mae nifer o wledydd yn paratoi i gynorthwyo’r wlad ond mae pryderon na fydd modd cyrraedd yr ardaloedd eang sydd wedi cael eu heffeithio gan y trychineb.
Mae lle i gredu bod o leiaf 17 o bobol wedi cael eu lladd ar fynydd Everest yn dilyn cwymp eira o ganlyniad i’r daeargryn.
Cafodd 61 o bobol eu hanafu, ac mae nifer sylweddol o bobol yn dal ar goll.
Mae ail-agor maes awyr Kathmandu yn allweddol i’r ymdrechion i gynnig cymorth, ond dydy hynny ddim wedi digwydd eto.
Ymhlith yr elusennau sy’n ceisio cyrraedd yr ardal mae Achub y Plant a Meddygon Heb Ffiniau.
Mae sefydliad y meddygon yn paratoi i anfon 3,000 o becynnau o nwyddau, ac mae’r elusen Habitat for Humanity wedi rhoi 20,000 o becynnau at ei gilydd i’w dosbarthu mewn canolfannau arbennig sydd wedi cael eu sefydlu.
Mae disgwyl i griw achub o Tsieina gyrraedd yn ystod y dydd heddiw, ac mae llysgenhadaeth yr Unol Daleithiau wedi addo rhoi miliwn o ddoleri i helpu’r broses o adfer yr ardal.
Mae llywodraethau Prydain, yr Almaen, Norwy, Eidal, Ffrainc, Monaco a Mecsico hefyd wedi addo rhoi cymorth, ac mae Canada wedi anfon timau achub i Nepal, ac wedi addo rhoi pum miliwn o ddoleri i helpu’r achos.