Mae Llywodraeth Malaysia wedi cyhoeddi y byddan nhw’n ehangu’r ardal lle maen nhw wedi bod yn chwilio am awyren Air Malaysia i dros 23,000 milltir sgwâr ychwanegol o Gefnfor India, os nad yw’r awyren yn cael ei chanfod cyn mis Mai.

Mae Gweinidog Trafnidiaeth Malaysia, Liow Tiong Lai, wedi dweud eu bod “wedi ymrwymo i ganfod yr awyren” a oedd ar ei ffordd o Kuala Lumpur i Beijing, pan ddiflannodd gyda 239 o bobl ar ei bwrdd ym mis Mawrth y llynedd.

Mae’r ymgyrch i ganfod yr awyren yn ymgyrch ar y cyd rhwng Malaysia, Awstralia a China. Yn dilyn cyfarfod gyda’r gwledydd eraill, dywedodd y gweinidog fod 61% o’r safle chwilio wedi’i gwblhau, sy’n ymestyn ar hyd arfordir gorllewinol Awstralia.

Bydd gweddill y safle yn cael ei chwilio erbyn diwedd Mai, meddai.

“Os nad yw’r awyren yn cael ei chanfod o fewn 23,000 milltir sgwar, yr ydym wedi penderfynu ehangu’r safle chwilio am 23,000 milltir sgwar arall o fewn yr ardal .”

Ychwanegodd Gweinidog Trafnidiaeth Awstralia, Warren Truss: “Rydym yn hyderus ein bod yn chwilio yn y lle iawn. Os yw’r awyren yn yr ardal hon, mi fyddem yn ei chanfod.”