Mae’r awdurdodau yn Iran wedi codi’n rhannol y gwaharddiad ar i ferched gael mynd i weld gemau dynion.

Mae Cyngor Diogelwch y Wladwriaeth wedi rhoi sêl bendith i gynllun sy’n caniatau i ferched a theuluoedd fynychu digwyddiadau chwaraeon.

Ond mae yna rybudd na fydd pob gêm, na phob stadiwm, yn caniatau mynediad i ferched – hyd yn oed dan y cynllun newydd.

Fe ddaeth y cyhoeddiad wedi i Sepp Blatter, Llywydd y corff sy’n rheoli pêl-droed, FIFA, annog Iran yn gynharach eleni i roi’r gorau i’r gwaharddiad ar ferched fynd i stadiymau i weld gemau ffwtbol.

Mae merched wedi’u gwahardd rhag mynd i weld dynion yn chwarae pob math o gemau ers y Chwyldro yn y wlad yn 1979. Ond, mae Iran wedi caniatau i ferched o dramor fynd i weld gemau rhyngwladol yno.