Mae bom car wedi ffrwydro mewn gorsaf bleidleisio yn ninas Enugu yn Nigeria, wrth i bobol ymgynnull er mwyn fotio mewn etholiad arlywyddol.

Fe gafodd dwy fom arall eu datgysylltu ar y safle.

Does neb eto wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad.

Mae bron iawn i 60 miliwn o bleidleiswyr wedi cofrestru i fwrw croes yn yr etholiad cynta’ erioed yn hanes Nigeria lle mae gan ymgeisydd yr wrthblaid gyfle go iawn i ennill.

Yr Arlywydd Goodluck Jonathan a’r cyn-unben milwrol Muhammadu Buhari ydi’r ffefrynnau o blith 14 o ymgeiswyr.