Mae o leiaf pedwar o bobl wedi’u lladd a dwsinau yn dal yn gaeth ar ôl i do ffatri sment pum llawr, oedd yn cael ei adeiladu ym Mangladesh, ddymchwel.
Roedd dros 150 o weithwyr yn gweithio ar safle’r ffatri yn Mongla, yn ardal Bagerhat ar y pryd, meddai’r swyddog tân Mizanur Rahman.
Cafodd o leiaf 30 o bobl eu hachub o’r rwbel, gyda hyd at 40 yn debyg o fod wedi’u dal yn gaeth o hyd.
Yn ôl llygad-dystion roedd tua 50 i 60 o bobl yn gweithio ar y to pan ddymchwelodd.
Mae’r rhai gafodd eu hanafu wedi’u cludo i’r ysbyty.
Mae ymchwiliad ar y gweill i achos y ddamwain.
Mae’r ffatri 85 milltir i’r de-orllewin o’r brif ddinas Dhaka.
Yn Ebrill 2013, fe ddymchwelodd ffatri arall yn Dhaka gan ladd dros 1,100 o bobl.