Mae’r Undeb Ewropeaidd wedi cymeradwyo rheolau newydd sy’n gwahardd y defnydd o fagiau plastig tenau sy’n beryglus i’r amgylchedd.

Mae 28 o genhedloedd yr undeb wedi rhoi cymeradwyaeth derfynol i’r rheolau sy’n golygu efallai y bydd yn rhaid i ddefnyddwyr ddefnyddio bagiau cryfach y gellir eu hailddefnyddio, neu wynebu costau ychwanegol.

Mae hi eisoes yn ofynnol i wledydd sy’n aelodau o’r Undeb Ewropeaidd i leihau’r defnydd o fagiau plastig o’r fath o 80% erbyn 2025, ond eu bod nhw’n cael dewis ar sut i gyrraedd y targed hwnnw.

Yr Aelod Seneddol Ewropeaidd o Ddenmarc, Margrete Auken, wnaeth gyflwyno’r ddeddfwriaeth trwy’r senedd a dywedodd ei bod yn “torri tir newydd wrth fynd i’r afael â’r broblem o wastraff plastig”.

Yng Nghymru, cyflwynwyd tâl o 5c am fagiau siopa plastig yn 2011 ac fe wnaeth y defnydd o fagiau plastig ostwng 81% rhwng 2010 a 2012.