Milwr o luoedd yr Wcrain
Bydd hyd at 75 o filwyr Prydain yn cael eu hanfon i’r Wcráin fis nesaf i gynnig cyngor a hyfforddiant i’r lluoedd arfog.

Bydd y milwyr wedi’u lleoli ymhell oddi wrth yr ardaloedd sydd wedi’u heffeithio gan y brwydro rhwng yr Wcráin a gwrthryfelwyr sy’n cael cefnogaeth Rwsia yn nwyrain y wlad.

Byddan nhw’n rhoi hyfforddiant ynghylch cudd-wybodaeth, logisteg a throedfilwyr, ac yn rhoi cymorth meddygol.

Hyd yn hyn, does dim penderfyniad ynghylch rhoi arfau peryglus i lywodraeth Kiev.

Daeth cadarnhad o gymorth milwyr Prydain gan y Prif Weinidog David Cameron, ac fe rybuddiodd am y peryglon pe na bai’r Undeb Ewropeaidd yn ymateb i Arlywydd Rwsia, Vladimir Putin.

Dywedodd y gallai unrhyw ymosodiadau posib ar y gwledydd Baltig neu Foldofa gael effaith “ofnadwy” ar economi gwledydd Prydain.

Wrth annerch pwyllgor yn San Steffan, galwodd Cameron am gyflwyno sancsiynau llym yn erbyn Rwsia pe baen nhw’n anwybyddu’r cadoediad a gafodd ei gytuno yn ninas Minsk yn gynharach y mis yma.

Awgrymodd hefyd ei fod yn barod i roi rhagor o arian i’r BBC er mwyn darparu newyddion i wrthwynebu’r “llu o gyfryngau Rwsiaidd sy’n rhoi gwybodaeth gamarweiniol”.