Mae cyn-aelod o lengfilwyr yr Unol Daleithiau wedi’i garcharu am oes am lofruddio awdur a dyn arall ar safle saethu.

Cafwyd Eddie Ray Routh yn euog o ddau achos o lofruddio wedi i’r rheithgor yn Tecsas wrthod dadl yr amddiffyniad nad oedd yn ei iawn bwyll pan saethodd y ddau.

Ni fydd Routh fyth yn cael ei ystyried am barôl wedi iddo saethu Chris Kyle a Chad Littlefield yn farw ym mis Chwefror 2013.

Dywedodd aelodau teulu Routh ei fod yn dioddef o drawma ôl-straen wedi iddo dreulio cyfnodau yn Irac a Haiti.

Daeth yr achos i amlygrwydd mewn ffilm am fywyd Chris Kyle a’i bedair taith filwrol i Irac.

Yn ôl yr erlyniad, mae Routh yn ddefnyddiwr cyffuriau sy’n gallu gwahaniaethu rhwng y da a’r drwg, er gwaetha’r cyffuriau.

Wrth roi tystiolaeth, cyfaddefodd Routh nifer o weithiau ei fod yn euog o’r troseddau yr oedd wedi’i gyhuddo o’u cyflawni.

Fe allai’r rheithgor fod wedi’i ganfod yn euog o lofruddio, yn ddieuog o lofruddio neu’n ddieuog ar sail ei gyflwr meddwl.

Pe bai’r rheithgor wedi’i ganfod yn ddieuog ar sail ei gyflwr meddwl, fe allai fod wedi’i gadw mewn ysbyty meddwl.

Ond yn ôl un arbenigwr, nid yw Routh yn dioddef o gyflwr difrifol ac fe honnodd y gallai fod wedi’i ddylanwadu i lofruddio gan raglenni teledu.