Mae dau o bobol wedi cael eu lladd a dwsinau wedi’u hanafu yn dilyn ffrwydrad yn ninas Kharkiv yn yr Wcráin.

Digwyddodd y ffrwydrad yn ystod gorymdaith i nodi blwyddyn ers i’r cyn-Arlywydd Viktor Yanukovych golli grym.

Mae’r awdurdodau’n trin y ffrwydrad fel ymosodiad brawychol.

Penderfynodd senedd yr Wcráin ar Chwefror 22 y llynedd i bleidleisio o blaid disodli’r Arlywydd yn dilyn misoedd o drais yn y brifddinas Kiev.

Cafodd y Crimea ei chipio gan luoedd Rwsia fis yn ddiweddarach.

Mae 5,600 o bobol wedi cael eu lladd yn y gwrthdaro a ddilynodd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Cafodd cadoediad ei lofnodi ddeng niwrnod yn ôl, ond mae’r brwydro’n parhau.

Ond mae disgwyl i luoedd yr Wcráin dynnu eu harfau yn ôl o faes y gad heddiw yn unol ag amodau’r cadoediad.