Gwrthryfelwr sy'n gefnogol i Rwsia yn yr Wcrain
Mae Llywodraeth yr Wcrain a Rwsia yn cyhuddo ei gilydd o dorri cadoediad yn nwyrain yr Wcrain, ar ôl i’r ymladd barhau yn yr ardal ddoe er gwaethaf cytundeb i atal y rhyfel dros dro.
Roedd gobaith o ddod a’r anghydfod treisgar yn y wlad i ben pan ddaeth y cadoediad i rym ddydd Sul, ond fe fu ymosodiad dros nos yn Horlivka – tref sydd wedi’i meddiannu gan wrthryfelwr sy’n gefnogol i Rwsia.
Mae’r ddwy ochr wedi cyhuddo ei gilydd o’r ymosodiad yn ôl llefarydd ar ran y gwrthryfelwyr, Eduard Basurin.
Er hyn, mae’r Wcrain a Rwsia wedi amlinellu eu cefnogaeth i’r cadoediad gafodd ei gyhoeddi ar ôl trafodaethau rhwng arweinwyr y ddwy wlad yn ogystal ag arweinwyr o’r Almaen a Ffrainc.
Mae mwy na 5,300 o bobol wedi cael eu lladd yn yr Wcrain ers i’r ymladd gychwyn ym mis Ebrill y llynedd.